Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol)

Papur 2: Grŵp Swyddogion yr Iaith Gymraeg

 

Onid ydym yn nodi’n wahanol, dylid ystyried ein bod yn cytuno neu’n croesawu pob elfen o’r Bil, heblaw am yr hyn a nodir isod.

1.    Mae angen y Bil yn bendant gan nad yw Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn addas at y diben o ran sicrhau bod rheidrwydd ar y Cynulliad a Chomisiwn y Cynulliad i gyflawni’r hyn y mae disgwyl i sefydliadau cyhoeddus eraill Cymru ei gyflawni o ran dwyieithrwydd. Nid yw hynny’n dderbyniol o ystyried taw’r Cynulliad yw prif sefydliad Cymru ac os nad yw’r Cynulliad yn rhoi statws swyddogol i ddefnydd yr iaith Gymraeg yn gyfartal â’r Saesneg wrth arfer ei swyddogaethau, sut gellid disgwyl i unrhyw sefydliad arall yng Nghymru gyflawni eu dyletswyddau statudol yn unol â deddfwriaeth bresennol ar y Gymraeg.

2.    Rhaid i’r Bil osod yr un dyletswyddau ar y Cynulliad â’r rhai a osodir ar y Llywodraeth a sefydliadau cyhoeddus eraill gan ddeddfwriaeth bresennol. Dylid newid ‘uchelgais’ (e.e. Pwynt 4.4. (memorandwm esboniadol)) i ‘ddyletswydd’ ym mhob achos, wedyn bydd y Bil yn cyflawni diben y Bil.

3.    Mae’r 4 ddarpariaeth newydd yn gryn welliant ar yr hyn a fu ynghynt ac yn creu gwir gydraddoldeb ieithyddol o’i gymharu â’r geiriad blaenorol a oedd yn ein barn ni yn tanseilio’r Gymraeg.

4.    Ar y cyfan rydym yn croesawu’r darpariaethau yn gyffredinol, heblaw am y pwyntiau canlynol i’r is-gwestiynau yng nghwestiwn 4 sef, yn benodol:

 

iii. Mae’r geiriad yn is-baragraff (6) yn amwys ac yn aneglur:

“(6) Nothing in this paragraph (or in section 35(1)) is to be interpreted as requiring all words spoken or written in one of the official languages to be interpreted or translated into the other. “

 

Er bod y Memorandwm Esboniadol yn nodi bod y geiriad hwn yn adlewyrchu’r hyn sydd yn Neddf Ieithoedd Swyddogol Iwerddon 2002 (adran 6(3), rydym o’r farn bod angen cynnwys geiriad tebycach i’r Ddeddf honno (12.8 y bil) (isod) sydd yn llawer cliriach ac yn esbonio’r hyn o olygir yn well:

“Every official report of the debates and other proceedings of the Houses of the Oireachtas shall be published in each of the official languages, except that contributions (whether oral or in writing) in either of the official languages by persons may be published therein solely in that language.”

 

v. Mae cynnwys is-baragraff (9) ynghylch pa mor aml yr adolygir y Cynllun yn siomedig, gan ei fod wedi ei newid o unwaith bob 4 mlynedd i unwaith bob 5 mlynedd.

(9) The Assembly Commission—

(a) must, at least once every five years, review the Scheme, and

(b) may, at any time, adopt a new Scheme or an amendment to the

existing Scheme.

 

(a) Credwn fod angen adolygu’r cynllun yn fwy aml na bob 5 mlynedd, i gyd-fynd â thymor y Cynulliad. Hefyd mae deddfwriaeth cydraddoldeb yn gyffredinol yn annog adolygu cynlluniau bob 3 blynedd a dyna’r arfer gyda Chynlluniau Iaith awdurdodau lleol bellach hefyd. Beth yw’r rhesymau dros ymestyn cyfnod adolygu’r Cynllun o 4 i 5 mlynedd?

(b) Os ceir Cynllun neu ddiwygiad newydd yna dylai fod yn gryfach o blaid y Gymraeg na’r hyn a fu ynghynt a rhaid ymgynghori â’r cyhoedd arno.

vi. Yng ngeiriad is-baragraff (10)(b)

 

(10)(b) the Assembly Commission has considered any representations

made about the draft Scheme (or draft amendment) by—

(i) members of the public, and

(ii) the Assembly, and

 

Dylid hefyd gynnwys pob sefydliad a gwmpesir gan ddarpariaethau’r Mesur Iaith.

 

5.    Os ydych yn cynnwys ein sylwadau a’n gwelliannau ni yna rydym yn cytuno bod cydbwysedd cywir rhwng y gofynion penodol sydd wedi’u cynnwys ar wyneb y bil a’r darpariaethau sydd i’w cynnwys yn y Cynllun.

 

6.    Mae’n bosib nad oes digon o gysylltiad neu gysylltiad amlwg rhwng y Bil a’r Mesur Iaith. Mae angen i’r Mesur gael ei weithredu’n effeithiol gan sefydliadau eraill er mwyn i’r Bil weithio yn y Cynulliad a vice versa.

 

7.    Gan fod y Mesur Iaith yn datgan bod y Gymraeg a’r Saesneg yn ieithoedd swyddogol Cymru, ac felly yn gyfartal o ran statws, mae unrhyw ddadleuon ynghylch gwariant yn amherthnasol. Dylid derbyn bod cyllid y Cynulliad yn ei gyfanrwydd felly ar gyfer darparu gwasanaethau yn y ddwy iaith yng Nghymru, ac os caiff cynnwys gweithredu’n Gymraeg eu cynnwys, dylid hefyd cynnwys costau gweithredu’n Saesneg a chymharu gwariant ar sail hynny, yn hytrach nag ystyried darparu gwasanaethau’n Gymraeg yn gost ‘ychwanegol’.  Mae’r gallu gan swyddogion dwyieithog i weithio’n ddwyieithog ac felly nid oes angen nodi cost ychwanegol o gwbl, dim ond cynllunio’r gweithlu’n fwy effeithiol o bosib.

8.    Ar y cyfan mae’r Bil yn cryfhau’r ddeddfwriaeth bresennol ac ar wahân i’r pryderon uchod rydym yn croesawu cynnwys y Bil.

 

9.    Dim sylwadau pellach am adrannau penodol o’r Bil, ond hoffwn wybod pam fod y Bil ei hun (er yn ymwneud â dwyieithrwydd ac er ei fod wedi ei baratoi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru) yn Saesneg yn unig fel ein bod ni felly heb ddewis ond am ddyfynnu’r adrannau uchod yn Saesneg? Hefyd, bu’n rhaid chwilio am y dogfennau ar ochr Saesneg gwefan y Cynulliad a newid iaith gan nad oedd chwilio’n Gymraeg yn gweithio o gwbl o ran dod o hyd i’r dogfennau perthnasol.

 

10.  Mae ein barn a’n sylwadau ar y Cynllun Ieithoedd Swyddogol Drafft yn gynwysedig fel Atodiad A i’r ymateb hwn.

 

11.  Mae’r newidiadau a amlinellir ym mharagraff 6.19 yn iawn heblaw am y canlynol sy’n amwys:

 

 

‘cynnwys paragraffau esboniadol yn esbonio pam mae cyfathrebu rhwng Aelodau unigol y Cynulliad â’r cyhoedd y tu allan i gwmpas y Cynllun;’

 

Ydy hyn yn golygu nad oes rhaid i ACau ateb yn Gymraeg i lythyr a dderbyniwyd yn Gymraeg? Os felly rydym yn anghytuno. Mae gofyn i aelodau cynghorau lleol i ymateb yn Gymraeg. Pam mae hwn tu fas i gwmpas y Cynllun? Ac oni fyddai’n cael ei gwmpasu gan ddarpariaethau’r Mesur Iaith a hawl yr unigolyn ta beth, ac os felly dylid nodi hynny yn ei le.